Croeso i wefan Llais – papur bro Cwm Tawe a’r cylch.
NEWYDDION: Yn sgil cyfyngiadau y cyfnod clo newydd, ni fyddwn yn cyhoeddi copi papur o’r Llais tan fis Mawrth 2021 gan obeithio y bydd wedyn modd argraffu rhifyn swmpus yn cynnwys holl newyddion Ionawr a Chwefror, a fydd ar gael gan eich dosbarthwyr lleol ac yn Siop Tŷ’r Gwrhyd, Pontardawe. Diolch am eich cefnogaeth.
Gallwch ddarllen rhifynnau blaenorol drwy glicio yma.
Mae’r papur yn cael ei gyhoeddi’n fisol ac yn cynnwys newyddion am gymunedau :
- Abercraf
- Yr Allt-wen
- Cilybebyll a Gellinudd
- Clydach
- Craig-Cefn-Parc
- Cwmtwrch
- Cwmllynfell
- Felindre
- Gwaun-Cae-Gurwen
- Pen-y-cae
- Pontardawe
- Rhos
- Rhyd-y-fro
- Trebannws
- Ystalyfera
- Ystradgynlais
Mae’r Llais hefyd yn cynnwys colofnau am natur, hanes lleol, cymeriadau lleol, newyddion ysgolion, digwyddiadau Cymraeg, Canolfan Gymraeg Ty’r Gwrhyd, Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot, a cholofnau ar gyfer dysgwyr, pobl ifanc a phlant.
Sefydlwyd y Llais yn 1979 gan griw o wirfoddolwyr i wasanaethu cymunedau Cymraeg Cwmtawe. Rydym yn falch iawn o’r holl gefnogaeth rydym wedi ei derbyn dros y blynyddoedd, ac yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y grant blynyddol rydym yn ei dderbyn ganddynt.
Cliciwch yma i danysgrifio.
Mae’r Llais hefyd ar werth yn siop Tŷ’r Gwrhyd, Pontardawe: gwrhyd.cymru/siop/